OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif 1846 (Cy. 273)
LLESIANT, CYMRU
Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Buddiannau Cofrestradwy) 2015
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae paragraff 13(1) o Atodlen 2 i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”) yn gwneud darpariaeth bod rhaid i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru (“y Comisiynydd”) greu a chynnal cofrestr sy’n cynnwys holl fuddiannau cofrestradwy’r Comisiynydd a holl rai Dirprwy Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru (“y Dirprwy Gomisiynydd”).
Mae paragraff 13(2)(a) o Atodlen 2 i’r Ddeddf yn darparu i Weinidogion Cymru bŵer, drwy reoliadau, i bennu pa fuddiannau sy’n fuddiannau cofrestradwy at ddibenion paragraffau 13, 14 a 15 o Atodlen 2 i’r Ddeddf.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn gan ddibynnu ar y pŵer a ddarparwyd gan baragraff 13(2)(a) o Atodlen 2 i’r Ddeddf. Mae rheoliad 2 yn cyflwyno’r Atodlen i’r Rheoliadau sy’n pennu buddiannau cofrestradwy’r Comisiynydd a’r Dirprwy Gomisiynydd.
Ni pharatowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y Rheoliadau hyn.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif 1846 (Cy. 273)
LLESIANT, CYMRU
Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Buddiannau Cofrestradwy) 2015
Gwnaed 29 Hydref 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad
Cenedlaethol Cymru 2 Tachwedd 2015
Yn dod i rym 23 Tachwedd 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 13(2)(a) o Atodlen 2 i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1.—(1)(1) Enw’r
Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Llesiant
Cenedlaethau’r
Dyfodol (Cymru) 2015 (Buddiannau Cofrestradwy) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Tachwedd 2015.
Buddiannau cofrestradwy
2. Mae’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn yn pennu buddiannau cofrestradwy Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a Dirprwy Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru at ddibenion paragraffau 13, 14 a 15 o Atodlen 2 i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
29 Hydref 2015
YR ATODLEN Rheoliad 2
BUDDIANNAU COFRESTRADWY
RHAN 1
Dehongli
1. Yn yr Atodlen hon—
ystyr “aelod o deulu” (“family member”) mewn perthynas â’r Comisiynydd yw partner y Comisiynydd ac unrhyw blentyn;
ystyr “y Comisiynydd” (“the Commissioner”) yw Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a Dirprwy Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru (p’un ai’n unigol neu gyda’i gilydd);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015;
ystyr “eiddo perthnasol” (“relevant property”) yw tir neu eiddo deallusol y mae’r Comisiynydd yn dal mewn cysylltiad ag ef fuddiant sydd wedi ei gaffael drwy arian a ddarparwyd gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 16 o Atodlen 2 i’r Ddeddf;
ystyr “partner” (“partner”) yw priod, partner sifil neu un o gwpl p’un ai o’r un rhyw neu o’r rhyw arall sy’n byw gyda’i gilydd, er nad ydynt yn briod â’i gilydd, ac sy’n trin ei gilydd fel dau briod;
ystyr “plentyn” (“child”) yw unrhyw berson sydd, adeg cofrestru’r buddiant, naill ai yn—
(a) plentyn i’r Comisiynydd;
(b) llysblentyn i’r Comisiynydd drwy briodas neu bartneriaeth sifil;
(c) person sydd wedi ei fabwysiadu’n gyfreithiol gan y Comisiynydd;
(d) person sydd wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gyda’r Comisiynydd; neu
(e) person sydd o dan un mlwydd ar bymtheg oed, neu o dan bedair blwydd ar bymtheg oed ac yn cael addysg lawnamser, ac sydd am y chwe mis calendr blaenorol wedi cael cefnogaeth ariannol gan y Comisiynydd.
RHAN 2
Buddiannau
2. Y buddiannau y cyfeirir atynt yn rheoliad 2 yw—
(a) manylion unrhyw swydd neu gyflogaeth [am dâl neu heb dâl] a ddelir gan y Comisiynydd neu aelod o’i deulu;
(b) manylion unrhyw fuddiant a ddelir gan y Comisiynydd neu aelod o’i deulu mewn eiddo perthnasol;
(c) enwau unrhyw gwmnïau neu gyrff eraill y mae gan y Comisiynydd, naill ai ar ei ben ei hun neu gydag aelod o’i deulu, neu ar ran aelod o’i deulu, fuddiant llesiannol mewn cyfranddaliadau;
(d) swyddi cyfarwyddwyr am dâl a ddelir gan y Comisiynydd mewn unrhyw gwmni, gan gynnwys swyddi cyfarwyddwyr na thelir tâl iddynt yn unigol ond lle y telir tâl drwy gwmni arall yn yr un grŵp;
(e) enwau unrhyw gwmnïau neu gyrff eraill y mae’r Comisiynydd yn ymddiriedolwr ynddynt;
(f) manylion unrhyw dâl, cyllid, rhodd, neu fudd ar ffurf nwyddau neu wasanaethau a geir gan y Comisiynydd, mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau’r Comisiynydd, oddi wrth unrhyw gwmni neu gorff; ac
(g) manylion unrhyw swydd a ddelir gan y Comisiynydd mewn plaid wleidyddol.